Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 12
Mawrth 2024
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(60 munud)
(45 munud)
(30 munud)
(30 munud)
(30 munud)
(5 munud)
NDM8510 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2024 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Chwefror 2024.
Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
(5 munud)
NDM8511 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Diwygio) a Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2024 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Chwefror 2024.
Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
(5 munud)
NDM8506 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol
â Rheol Sefydlog 26.36:
Yn cytuno i waredu’r adrannau o’r Bil Seilwaith (Cymru)
a’r atodlenni iddo yng Nghyfnod 3 yn y drefn a ganlyn:
a) Adrannau 1-61;
b) Atodlen 1;
c) Adrannau 62 - 91;
d) Atodlen 2;
e) Adrannau 92 - 143;
f) Atodlen 3;
g) Adrannau 144 - 146;
h) Enw hir.
(15 munud)
NDM8512 Mick Antoniw (Pontypridd)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaeth yn y Bil Masnach (Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr Tawel), sef cymal 2, trin cyrff asesu cydymffurfiaeth etc., i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Rhagfyr 2023 a gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Ionawr 2024 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Ceir copi o’r Bil ar wefan Senedd y DU:
Y Bil Masnach (Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr Tawel) [HL] (parliament.uk) (Saesneg yn unig)
Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Llythyr gan Weinidog yr Economi, 4 Mawrth 2024
NDM8513 Mick Antoniw (Pontypridd)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Masnach (Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr Tawel), sef cymal 3 sy'n ymwneud â chaffael cyhoeddus, a chymal 4 sy'n ymwneud â dynodiadau tarddiad a dynodiadau daearyddol, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Rhagfyr 2023 a gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Ionawr 2024 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Ceir copi o’r Bil ar wefan Senedd y DU:
Y Bil Masnach (Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr Tawel) [HL] (parliament.uk) (Saesneg yn unig)
Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Llythyr gan Weinidog yr Economi, 4 Mawrth 2024
(15 munud)
NDM8509 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Lles Anifeiliaid (Allforion Da Byw) i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Rhagfyr 2023 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Ceir copi o’r Bil ar wefan Senedd y DU:
Y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir) - Biliau Seneddol - Senedd y DU (Saesneg yn unig)
Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
(30 munud)
NDM8460 Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar gyfer mwy o ddiogelwch ar drafnidiaeth gyhoeddus.
2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:
a) cyflwyno systemau ar gyfer monitro, adrodd ac uwchraddio goleuadau yn rheolaidd ar gyfer yr holl wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys ar fwrdd cerbydau, mewn arosfannau a gorsafoedd, ac ar strydoedd yn union o amgylch gorsafoedd trên a safleoedd bysiau mawr;
b) adolygu hyfforddiant a gynigir ar hyn o bryd ym maes diogelwch i'r rhai sy'n gweithio yn y diwydiant trafnidiaeth, o'u rhan eu hunain ac eraill;
c) gwella gweithdrefnau adrodd presennol a datblygu systemau mwy cyson a thryloyw ar gyfer adrodd a chofnodi achosion o gam-drin sy'n effeithio ar bobl sy'n agored i niwed ar drafnidiaeth gyhoeddus; a
d) asesu'r angen am ddyletswydd statudol ar gwmnïau trafnidiaeth gyhoeddus i sicrhau bod teithwyr yn cyrraedd pen eu taith, neu fan diogel, ar ôl iddi dywyllu.
Cefnogwyr
Jane Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Sioned Williams (Gorllewin De Cymru)
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 13 Mawrth 2024